Gwasg Prifysgol Cymru
@gwasgprifcymru
Cyhoeddi Cymru a'r byd er 1922. 📚 English: @uniwalespress.bsky.social 🔗 www.gwasgprifysgolcymru.org
☀️ 📚️ Cymerwch olwg ar ein sêl haf! 📚️ ☀️ Ewch ati i dyrchu trwy gannoedd o gyhoeddiadau, pob un gyda 70% o ostyngiad! www.gwasgprifysgolcymru.org/sel-haf/
Bore da o faes Eisteddfod y Garreg Las 👋 Dewch i’n gweld ar stondin Y Lle Llyfrau yn y Pentref Llên, lle mae gwledd o lyfrau gan gyhoeddwyr o bob cwr o Gymru ar werth gan siop lyfrau Awen Teifi! 📚
🎪📚Eisteddfod y Garreg Las 📚🎪 Fore Gwener nesaf am 10.30yb yn Llwyfan Llyfrau y Pentref Llên, dewch i wrando ar drafodaeth banel gydag @andrewjamdavies.bsky.social, Jeremy Griffiths ac Elin Haf Gruffydd Jones, cyfranwyr y gyfrol, 'Chwarter Canrif o Addysg Ddatganoledig yng Nghymru'.
🎪📚Eisteddfod y Garreg Las 📚🎪 Bydd sgwrs rhwng Llŷr Gwyn Lewis ac Elen Ifan, awdur 'Y Gelfyddyd Gymodlawn' am ddylanwad amrywiol cerddoriaeth ar waith T. Gwynn Jones ym Mhabell Cymdeithasau 2 ddydd Iau nesaf am 14.30yp.
Cafwyd p'nawn hyfryd yn lansio 'Catrin o Ferain: Mam Cymru' ym Mhlas Glyn-y-Weddw ddydd Sadwrn gyda'r awdur, Helen Williams-Ellis, mewn sgwrs gyda Gruffudd Antur. Diolch yn fawr i'r Plas am y croeso, i Gruffudd a Helen am y sgwrs hwyliog, i Dunn & Ellis Cyf am y nawdd, ac i bawb a fynychodd!
🎪📚Eisteddfod y Garreg Las 📚🎪 Dewch i glywed Jason Walford Davies yn holi’r awdur Helen Williams-Ellis am ei chofiant i un o wragedd enwocaf Cymru, Catrin o Ferain, ym mhabell Prifysgol Bangor ddydd Mercher nesaf am 11yb. Croeso cynnes i bawb!
🎪📚Eisteddfod y Garreg Las 📚🎪 Ymunwch â @wigs24.bsky.social wrth iddo ymestyn ar bennod olaf ei gyfrol 'Ynysoedd Gobaith: Mentrau a Syniadau Iwtopaidd yng Nghymru'r Ugeinfed Ganrif' ym Mhabell Cymdeithasau 2 am 13.30yp ddydd Mawrth 4 Awst. Cyflwynir y ddarlith gan Jane Aaron. Dewch yn llu!
🎪📚Eisteddfod y Garreg Las 📚🎪 Os fethoch chi Aled Eirug ar ei daith yn hyrwyddo ei gofiant i Dafydd Elis-Thomas dros y flwyddyn ddiwethaf, bydd dwy sesiwn yn yr Eisteddfod! 🔹Dydd Mawrth 4 Awst 12.00yp, Pabell Prifysgol Bangor 🔹Dydd Sadwrn 8 Awst 15.30yp, Pabell Prifysgol Caerdydd Mwy o fanylion 👇
Gyda thristwch y clywyd am farwolaeth Adrian Driscoll, cyn-aelod o fwrdd is-bwyllgor Gwasg Prifysgol Cymru. Roedd Adrian yn uchel ei barch, a gadawodd ei gyfnod yn cydweithio gyda GPC waddol sylweddol. Mae ei golli yn ergyd drom oddi mewn i’r sector cyhoeddi a thu hwnt.
🚨📚️ SÊL HAF! 📚️🚨 Angen llyfr newydd ar gyfer y gwyliau? ☀️ Dilynwch y ddolen isod i bori drwy ein gostyngiad o 70% oddi ar gannoedd o lyfrau! Cynnig yn dod i ben 31 Awst, defnyddiwch y cyfeirnod HAF26 pan yn talu 📚️ www.gwasgprifysgolcymru.org/sel-haf/
P’nawn Sadwrn YMA! Bydd Helen Williams-Ellis yn sgwrsio gyda Gruffudd Antur am ei chofiant i un o wragedd enwocaf Cymru, Catrin o Ferain. 🕢2yp 📅Dydd Sadwrn 25 Gorffennaf 📍Plas Glyn y Weddw, Llanbedrog 🎫Digwyddiad am ddim, ond bydd angen archebu sedd trwy wefan www.oriel.org.uk/cy/ Dewch yn llu!
📚️Catalog Newydd! 📚️ Rydym wrth ein boddau yn rhannu ein catalog Hydref Gaeaf 2026! Ewch ati i bori drwy'r llyfrau y byddwn yn eu cyhoeddi cyn hir, gan gynnwys llyfrau gan Samuel Parry, T. Robin Chapman, @jerryhunter.bsky.social, @bethanscorey.bsky.social a llawer mwy! www.uwp.co.uk/app/uploads/...
🎪📚Eisteddfod y Garreg Las 📚🎪 Wrth i ni droi ein golygon at yr Eisteddfod Genedlaethol ymhen ychydig wythnosau, rydym yn gyffro i gyd i gyhoeddi ein rhaglen ar y maes! Eleni, bydd gennym bresenoldeb ar stondin Y Lle Llyfrau yn y Pentref Llên gyda nifer o gyhoeddwyr eraill. Fe'ch gwelwn ni chi yno!
Bu'r awdur hefyd yn sgwrsio ar raglenni BBC Radio Cymru a Radio Wales. Ewch ati i ailwrando 👇 🎧 Aled Hughes www.bbc.co.uk/sounds/play/... 🎧 Sunday Supplement www.bbc.co.uk/sounds/play/... Os hoffech ymuno â Helen ar ei thaith yn hyrwyddo ei chofiant i Catrin o Ferain, dyma'r manylion!
📖 Catrin o Ferain: Mam Cymru Bu sylw i gyfrol Helen Williams-Ellis yn y wasg yn ddiweddar, gyda chyfweliad yng nghylchgrawn @golwg.cymru ac adolygiad yn rhifyn newydd @cylchgrawn-barn.bsky.social. Dewch o hyd i gylchgronau Golwg a Barn, a 'Catrin o Ferain: Mam Cymru' yn eich siop lyfrau leol!
Mae @imc-leeds.bsky.social bron ar ben am flwyddyn arall! Byddwn yn Adeilad Parkinson tan 12pm heddiw 📚️ Wedi llwyr ymgolli yn narlithoedd yr wythnos i gael cyfle i ymweld â'r ffair lyfrau? Mae ein holl lyfrau astudiaethau canoloesol ar gael gyda phris gostyngol ar ein gwefan. uwp.co.uk/imc
Dyma ddiwrnod llawn olaf @imc-leeds.bsky.social! Dewch o hyd i glasuron GPC a llyfrau newydd sbon danlli yn Adeilad Parkinson gyda gostyngiad arbennig a hefyd 90% oddi ar lyfrau wedi eu difrodi 📚️ Dim lle yn y cês dillad? Mae modd archebu ar ein stondin rithiol tan ddiwedd y mis! www.uwp.co.uk/imc/
Mae’n ail ddiwrnod @imc-leeds.bsky.social! Pleser oedd croesawu golygyddion ein cyfres ‘Medieval Animals’, Diane Heath a Vicki Blud, i’r stondin. Dyma nhw gyda rhai o gyfrolau hwyl a hynod y gyfres! 🐻Introducing the Medieval Bear gan Karen Sullivan 🐌Introducing the Medieval Snail gan Julia Pineau
Wrth ein boddau yn mynychu cynhadledd ganoloesol ryngwladol @imc-leeds.bsky.social yr wythnos hon! Dewch i bori drwy ein llyfrau astudiaethau canoloesol difyr yn ffair lyfrau Adeilad Parkinson 📚️ Byddwn yn gwerthu trwy gydol y dydd ac yn ystod y derbyniad diod tan 6.30 heno!
📚Taith Llyfr Catrin o Ferain: Mam Cymru Ymunwch â Helen Williams-Ellis ar ei thaith yn hyrwyddo ei chyfrol newydd! Y man cyntaf ar y daith ydy Plas Glyn y Weddw, Llanbedrog, ar y 25ain o Orffennaf. Archebwch eich tocyn am ddim draw ar wefan y Plas. 👇 www.oriel.org.uk/cy/digwyddia...
Ydych chi wedi’ch hysbrydoli ar ôl mynychu Colocwiwm Ymchwilwyr Gyrfa Gynnar Cymdeithas Ddysgedig Cymru? Dilynwch y ddolen isod i weld yr ymchwil arloesol ddiweddaraf ym maes Astudiaethau Cymru a derbyn 20% o ostyngiad 📚️ www.uwp.co.uk/hanes-gwleid...
Gyda thristwch y clywyd am farwolaeth Phyllis Kinney, canwr, casglwr, ysgolhaig ac awdur y gyfrol bwysig ‘Welsh Traditional Music’ (2011), ffrwyth ei hymchwil a’i gwybodaeth fanwl, ddigymar ynghylch traddodiadau cerddorol Cymru dros gyfnod maith.
📚Lansiad Llyfr! Bydd Helen Williams-Ellis yn sgwrsio gyda Gruffudd Antur am ei chofiant i un o wragedd enwocaf Cymru, Catrin o Ferain. 🕢2yp 📅Dydd Sadwrn 25 Gorffennaf 📍Plas Glyn y Weddw, Llanbedrog 🎫Am ddim, ond bydd angen archebu sedd trwy wefan www.oriel.org.uk/cy/ Croeso cynnes i bawb!
Mae staff GPC yn drist iawn i glywed am farwolaeth yr Athro Ben Fisher, golygydd cyfresi ‘Gothic Literary Studies’ a ‘Gothic Authors: Critical Editions’. (1/2)
Rydym wrth ein boddau yn dathlu 20 mlynedd o #WythnosSiopauLlyfrau! Mae wastad yn braf gweld ein llyfrau mewn siopau llyfrau ar hyd y wlad, a dyma rannu rhai a welwyd yn ddiweddar 📚 📚 Siop Cant a Mil, Caerdydd 📚 Palas Print, Caernarfon 📚 Gay On Wye, Gelli Gandryll
📚 Ar gael nawr - 'Catrin o Ferain: Mam Cymru' gan Helen Williams-Ellis. Dyma gofiant i un o wragedd enwocaf ein hanes, sy'n datgelu cyfrolau am ei bywyd anturus yng Nghymru, Llundain ac ar gyfandir Ewrop. Yn gyfrol clawr caled gyda dros 80 llun lliw, am fwy o fanylion ewch at: tinyurl.com/k2xuhvp3
Yn ystod Mis Balchder, rydym yn dathlu hanes cwiar! Dysgwch fwy am yr amrywiol agweddau o hanes cwiar; o Gymry nodedig ac ymgyrchwyr i gynrychiolaeth teledu, ffilm a llenyddiaeth gyda’n Rhestr Ddarllen Mis Balchder 🌈 www.gwasgprifysgolcymru.org/rhestr-ddarl...
Gyda thristwch y clywyd am farwolaeth Rowland Wynne, awdur cyfrol bwysig yn Gymraeg a Saesneg ar Evan James Williams, ffisegydd yr atom, yng nghyfres Gwyddonwyr Cymru. Estynnwn bob cydymdeimlad i’w deulu a’i gyfeillion oll.
'Llywio’r iseldiroedd corsiog: Safbwyntiau staff addysg uwch ar lunio hunaniaethau proffesiynol trwy addysg foesol mewn rhaglenni gradd proffesiynol sy’n dod i gysylltiad uniongyrchol â’r gymuned' gan Louise Allen-Walker a Daniel Williams. ✍️ doi.org/10.16922/wje...
'Rhwystrau ac atebion i weithredu cwricwlwm a arweinir gan ddibenion yng Nghymru' gan Jane Gatley a Janet Oostendorp-Godfrey. ✍️ doi.org/10.16922/wje...